Mae'r warchodfa wedi gweld Madfallod Tywod a llyffantod y twyni’n cael eu hailgyflwyno a dyma unig nythfa fridio’r Fôr-wennol Fach yng Nghymru gan ei wneud yn hafan i fywyd gwyllt. Cliciwch yma i ymweld â gwe-gamera byw nythfa’r fôr-wennol fach. Mae'r twyni tywod hefyd yn darparu cynefin i blanhigion twyni, gan gynnwys peiswellt y twyni sy'n brin yn genedlaethol. Mae byrddau gwybodaeth ar y safle yn darparu rhagor o wybodaeth am y fflora a ffawna toreithiog.
Mae gan Dwyni Gronant ran o Lwybr Beicio Arfordir Gogledd Cymru 5 yn rhedeg drwyddo sy'n arwain o Bromenâd Prestatyn ar hyd yr arfordir drwy Sir y Fflint i Gaer a thu hwnt. Mae wyneb da i'r llwybr hwn gan ei wneud yn hawdd cerdded neu feicio arno. Yn ogystal â’r llwybr hwn mae nifer o lwybrau pren a llwyfannau gwylio yn arwain drwy'r twyni sy'n eich galluogi i archwilio ar droed.