Address/Location
North Parade
Llandudno
Conwy
LL30 2LP
Contact
Ffôn: 01492 549934/07570 811251
AM Y DAITH – Boed a ydych yn newydd i’r ardal neu ar wyliau, mae ein Taith Gweld Atyniadau Treftadaeth yn cynnig y cyfle mwyaf i chi weld y gorau o Landudno, Llandrillo-yn-Rhos a Deganwy. Byddwch yn darganfod trysorau hanesyddol wedi’u datgelu gan ein tywysydd preswyl, yn ogystal â golygfeydd godidog drwy gydol y daith.
Gan adael mynedfa Pier Llandudno (Prince Edward Square), mae ein taith yn mynd â chi ar hyd y Promenâd tuag at Drwyn y Fuwch, wrth i ni fynd am Fae Penrhyn a Llandrillo-yn-Rhos, tref glan môr hyfryd iawn. Ar ôl cyrraedd Llandrillo-yn-Rhos, byddwch yn mynd i un o eglwysi lleiaf Prydain, Capel Sant Trillo, y byddai ei strwythur gwreiddiol wedi dyddio'n ôl i’r 6ed ganrif, ac mae’n darparu’r man perffaith i gael lluniau hyfryd.
Ar ôl ymweld â’r capel, bydd y daith yn parhau i gefn gwlad Glanwydden ac i foethusrwydd Deganwy am fwy o olygfeydd godidog, sef Eryri, Marina Conwy a Deganwy a Chastell Conwy ei hun y tro yma!
Os nad ydi hynny’n ddigon, fe wnewch chi fwynhau hyn i gyd o'n bws cyfforddus a gwahanol Routemaster AEC 1962 o Lundain, sydd wedi’i adfer yn ofalus a gyda chariad.
Y BWS – Wedi’i adeiladu ym 1962, mae ein Routemaster (RM999) a gafodd ei adfer yn ofalus wedi iddo weithio'n brysur ar strydoedd Llundain, bellach yn mwynhau bywyd mwy ymlaciol yma yng Ngogledd Cymru. Mae wedi’i adfer yn ofalus drwy ddefnyddio rhannau gwreiddiol, gan sicrhau bod ein teithwyr yn cael profiad go iawn. Mae hyd yn oed yn cadw ei injan AEC gwreiddiol!
PAM DYLECH DEITHIO GYDA NI? Wedi’i lansio yn 2015, mae ein Taith Gweld Atyniadau Treftadaeth wedi tyfu i fod yn un o’r teithiau mwyaf poblogaidd yn yr ardal. Rydym yn teithio’n bellach na’r mwyafrif o deithiau eraill, felly mae ein teithwyr yn cael mwynhau ardaloedd cyfagos Llandudno, llefydd sydd fel arfer yn cael eu hanwybyddu a chael darganfod lleoliadau gwahanol i ymweld â nhw wrth ddod ar wyliau yma.
SUT I ARCHEBU – Y ffordd sy’n cael ei hargymell yw archebu ar-lein drwy ein gwefan ddiogel www.routemaster999.com/tours. Neu gallwch archebu wyneb yn wyneb wrth gyrraedd (yn ddibynnol ar argaeledd), neu ffoniwch ein tîm cyfeillgar ar 01492 549934. Mae ein swyddfa’n agored dydd Llun i ddydd Gwener 9am tan 4pm.
Mae’r daith yn para am un awr ac yn gadael deirgwaith y diwrnod am 11am, 1pm a 3pm ddydd Mawrth, dydd Mercher, dydd Iau, dydd Sadwrn a dydd Sul.
Opening Times
Tymor (1 Ebr 2019 - 31 Hyd 2019) | ||
---|---|---|
Dydd Llun | ||
Dydd Mawrth | Open | |
Dydd Mercher | Open | |
Dydd Iau | Open | |
Dydd Gwener | ||
Dydd Sadwrn | Open | |
Dydd Sul | Open | |
Gwyliau Cyhoeddus | Open |
* Tour departs 11am, 1pm & 3pm
Prisiau
Tocyn Math | Tocyn Tariff |
---|---|
Adult | £7.00 oedolyn |
Noder: Canllaw yn unig yw'r prisiau a gallant newid yn ddyddiol.